logo CNC logo GTJ
 

Mwy o wybodaeth

ynglŷn â thai eraill o gyfnod y Tuduriaid a'r Stiwartiaid

Tŷ teulu cyfoethog oedd Plas Mawr. Roedd teuluoedd tlotach yn byw mewn tai llawer yn llai a llai cyffyrddus.

Logo AOCC

Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o dai yr oedd pobl gyfoethog a thlawd yn byw ynddynt drwy chwarae 'Y Sialens Duduraidd' ar wefan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Logo APCC

Mae gan y pecyn 'Tudors in Wales' lyfr ar gyfer athrawon, cardiau lluniau a CD-ROM gyda gwybodaeth a lluniau ar wahanol fathau o dai Tuduraidd. Gallwch gael pecyn o wasg Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Dyma ddolen i'w manylion cyswllt.

Os hoffech ymweld â thai eraill o gyfnod y Tuduriaid neu'r Stiwartiaid.....

Logo AWC

Ymwelwch ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ger Caerdydd, gallwch weld gwahanol fathau o dai yno. Edrychwch ar ei gwefan i gael gwybod mwy.

Logo Llancaiach Fawr

Tŷ o gyfnod y Stiwartiaid yw Llancaiach Fawr ger Caerffili. Dysgwch fwy amdano yma.