Baner Casglu'r Tlysau:dychwelyd i'r dudalen hafan

Ffilmiau | Themâu | Addysg | Ynglŷn â'r wefan hon | Cysylltwch | Hafan | English
Y Gornel Ddysgu Hafan | Athrawon | Disgyblion a myfyrwyr | Helfeydd Hanes | Pecynnau Pwnc | Cymorth Technegol | Hawlfraint
 

Pecynnau Pwnc

Pecynnau o adnoddau ar gyfer athrawon yw'r Pecynnau Pwnc, ac maent yn berthnasol i elfennau penodol o Raglenni Astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae un pecyn pwnc ar gael yn ymwneud â Hanes yng Nghyfnod Allweddol 2, ond y bwriad yw datblygu mwy o becynnau ar ystod ehangach o lefelau a phynciau.

Pecynnau Pwnc:

victorian boyPlant yn Oes Victoria - - sut fywyd oedd gan blant Cymru yn Oes Victoria?

Mae'r pecynnau yn cynnwys:

  • Delweddau maint llawn o eitemau gwreiddiol o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai ledled Cymru
  • Taflenni Gwybodaeth i Athrawon
  • Awgrymiadau ar gyfer Gweithgareddau
  • Taflenni Gwaith
  • Cysylltiadau i wefannau defnyddiol

Awgrymiadau ar sut i ddefnyddio'r Pecynnau Pwnc

Gallwch ddefnyddio'r adnoddau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, mewn gwersi traddodiadol neu wersi sy'n defnyddio Technoleg Gwybodaeth. Gallwch ddefnyddio'r pecynnau cyfan, neu ran ohonynt, a gallwch eu teilwra ar gyfer eich anghenion unigol.

  • Gallwch ddefnyddio'r delweddau wrth ddatblygu gwersi bwrdd gwyn electronig, neu eu hargraffu ar gyfer gwersi traddodiadol. Maent yn ddelfrydol ar gyfer dechrau trafodaeth, neu gallant fod yn ganolbwynt i astudiaethau manylach. Gan eu bod yn ddelweddau safon uchel o eitemau gwreiddiol, gallant ddod â'r gorffennol yn fyw gan ddehongli diwylliant Cymru mewn modd uniongyrchol a pherthnasol nad yw'n bosibl bob amser gydag adnoddau eraill.
  • Mae'r Taflenni Gwybodaeth i Athrawon yn cynnwys gwybodaeth gefndir hanfodol am y ddelwedd a'i pherthnasedd i'r pwnc dan sylw.
  • Maent hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau ychwanegol, ar wahanol lefelau, ac mae rhai ohonynt yn ychwanegu dimensiwn trawsgwricwlaidd.
  • Gallwch ddefnyddio'r taflenni gwaith sydd yn gysylltiedig â phob delwedd heb eu haddasu, neu gallwch eu haddasu ar gyfer eich anghenion unigol. Gallwch eu hargraffu, neu eu llwytho a'i haddasu ac yna'u hargraffu, ar gyfer gwersi traddodiadol. Gall y plant eu defnyddio arlein gan weithio ar gyfrifiaduron yn unigol neu mewn grwpiau. Neu gallwch eu defnyddio fel sail i wers bwrdd gwyn electronig. Mae'r taflenni gwaith fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau cymharol hawdd, ac yn gorffen gyda chwestiynau sydd rhywfaint yn anoddach er mwyn ymestyn y disgyblion mwyaf galluog. Gallwch wahaniaethu drwy osod mwy neu lai o gwestiynau i ddisgyblion o wahanol alluoedd. Nodwch hefyd y dylid defnyddio'r taflenni gwaith ar ôl cwblhau rhywfaint o waith rhagarweiniol ar y pwnc, er enghraifft trafodaeth yn y dosbarth yn seiliedig ar y ddelwedd.
  • Mae'r delweddau yn y pecynnau pwnc wedi eu dethol o'r miloedd o ddelweddau sydd ar gael ar wefan Casglu'r Tlysau. Mewn sawl achos, mae'r eitem sydd wedi ei chynnwys yn y pecyn pwnc yn un o nifer o eitemau cysylltiedig (un dudalen o lythyr neu ddyddiadur, er enghraifft), a gallwch ddilyn cysylltiad i weld yr holl eitemau ar y wefan. Mae hyn yn golygu bod modd datblygu adnoddau pellach, gan alluogi athrawon i ddarparu deunydd ar gyfer astudiaethau mwy manwl, er enghraifft, neu ddarparu ffynonellau gwahanol ar gyfer gwahanol grwpiau o ddisgyblion.