Ffilmiau | Themâu | Addysg | Ynglŷn â'r wefan hon | Cysylltwch | Hafan | English

Croeso i Gasglu'r Tlysau.

Mae'r wefan yn cynnwys dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru.

Themâu

Rydym wedi creu nifer o themâu er mwyn casglu ynghyd yr eitemau unigol sy'n perthyn i'w gilydd ar ein gwefan. Mae rhai themâu yn cynnwys casgliadau o lythyrau, ffotograffau, creiriau neu baentiadau. Mae themâu eraill yn cynnwys amrywiaeth o eitemau sy'n ymwneud â phwnc, digwyddiad neu unigolyn penodol. Yn ogystal â'ch galluogi i edrych ar eitemau unigol fel rhan o gasgliad, mae mwyafrif y themâu yn cynnwys disgrifiadau sy'n cyflwyno gwybodaeth gefndir ychwanegol. Mae tair thema gwahanol yn cael eu dethol ar eich cyfer bob dydd, 'Themâu'r Dydd'. Gallwch hefyd ddewis edrych ar ein 'Rhestr Themâu' (yn nhrefn yr wyddor) neu 'Chwilio Themâu'.

Themâu'r Dydd

Thema: Plasty Neuadd Garth, ger Y TrallwngPlasty Neuadd Garth, ger Y Trallwng

Cyfres o 10 o ffotograffau a dynnwyd o Blasty Neuadd Garth gan Bernard Mason ym 1946, flwyddyn yn unig cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel.

Thema: Bryn-y-Pys, OwrtynBryn-y-Pys, Owrtyn

Arolwg ffotograffig o Bryn-y-Pys, Owrtyn, a gynhaliwyd gan George Bernard Mason, Cofnod Adeiladau Cenedlaethol, ym 1956.

Thema: Castell Henllys, Bryngaer Oes yr HaearnCastell Henllys, Bryngaer Oes yr Haearn

Casgliad o ffotograffau o safle Castell Henllys, Bryngaer Oes yr Haearn, Meline, ger Crymych, Sir Benfro.

rss logo/logo rss