Paentiadau gan Charles Byrd (1916-)Detholiad o baentiadau gan yr arlunydd Charles Byrd (1916-), sydd wedi cael eu cyflwyno i Lyfrgell Ganolog Caerdydd gan yr artist.  Porwch y thema hon
Cafodd Charles Byrd ei eni ym Mhontypridd ym 1916. Cafodd ei hyfforddi'n beiriannydd, ond daeth yn arlunydd amser-llawn ym 1950. Trwy gydol y 1950au a dechrau'r 1960au bu'n cynhyrchu'r math o waith a welir yn y casgliad hwn - gweithiau ffiguraidd, manwl iawn, gyda nodweddion ffres a naïf, yn darlunio golygfeydd o fywyd bob dydd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, lle mae wedi byw a gweithio ar hyd ei fywyd. Yn ystod y 1960au trôdd Byrd ei gefn ar yr arddull hwn. Dechreuodd arbrofi gyda themâu haniaethol, gan symud yn y pen draw i faes cerflunwaith symudol, ac mae'n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus heddiw am ei waith yn y maes hwn. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld mewn casgliadau cyhoeddus ledled Cymru.
|