Ffilmiau | Themâu | Addysg | Ynglŷn â'r wefan hon | Cysylltwch | Hafan | English

Croeso i Gasglu'r Tlysau.

Mae'r wefan yn cynnwys dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru.

Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer) (1802-96)

Casgliad o eitemau yn ymwneud ag Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer) (1802-96), noddwraig diwylliant gwerin Cymru.

Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer) (1802-96)
Porwch y thema hon


Ganed Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer neu 'Gwenynen Gwent', ar 21 Mawrth 1802 ym mhentref Llanofer, Sir Fynwy. Roedd yn ferch i Benjamin Waddington, ac yn or-nith i Mary Granville (Mrs Delany). Ym 1823 priododd y diwydiannwr a'r gwleidydd, Benjamin Hall o Aber-carn a Hensol.

Er bod ganddi gysylltiadau agos â bywyd cymdeithasol bonedd Llundain, mae Arglwyddes Llanofer yn fwyaf adnabyddus fel un o brif noddwyr y diwylliant gwerin Cymreig. Roedd ei chartref yn Llys Llanofer yn ganolfan bwysig i feirdd, llenorion a cherddorion Cymreig, a rhoddwyd pwyslais arbennig ar yr iaith Gymraeg a dulliau traddodiadol o fyw o fewn yr ystâd. Cymraeg oedd iaith yr addysg yn yr ysgol leol yn Aber-carn, a chyflwynodd yr Arglwyddes wisgoedd 'traddodiadol' Cymreig i'w thenantiaid. Roedd ei diddordeb yn y maes hwn wedi dod i'r amlwg ym 1834 pan enillodd wobr eisteddfodol am draethawd ar barhad yr iaith Gymraeg, llenyddiaeth a gwisgoedd Cymru. Roedd yn aelod blaenllaw o'r gymdeithas lenyddol 'Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni', ac erbyn diwedd ei hoes roedd wedi casglu ynghyd gasgliad hynod werthfawr o lyfrau a llawysgrifau Cymreig, yn cynnwys llawysgrifau Iolo Morganwg. Cyhoeddodd fywgraffiad a golygiad o lythyrau ei hen-fodryb, Mrs Delany ym 1861-2, a chyfrol am fwydydd traddodiadol, 'Good Cookery ... and Recipes Communicated by the Hermit of the Cell of St. Govan' (1867), a oedd yn cynnwys rhai o'i lluniau o wisgoedd traddodiadol Cymru. Bu farw yn Llys Llanofer ar 17 Ionawr 1896, lle cafodd ei chladdu chwe diwrnod yn ddiweddarach.