Ffilm: 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) Ffilm liw o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yn cofnodi boddi dyffryn afon Tryweryn a phentref Capel Celyn, ym 1965. Ffilm gan athrawon a bechgyn Ygol Friars, Bangor, yn adrodd hanes boddi cwm afon Tryweryn (a oedd yn cynnwys boddi pentref Capel Celyn), er mwyn cyflenwi dŵr i bobl Lerpwl. Cafodd y ffilm ei gwneud dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae'n olrhain yr hanes o'r cychwyn hyd at gwblhau'r cynllun. Mae hon yn ffilm wrthrychol o ddigwyddiad sydd wedi esgor ar deimladau cryfion. Roedd John Charles, mab y ffotograffydd enwog Geoff Charles (1909-2002), ymhlith y disgyblion a fu'n cynhyrchu'r ffilm. Gallwch wylio 11 clip o'r ffilm. Clip cyntaf o'r ffilm 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn y capel a'r fynwent ym mhentref Capel Celyn cyn iddynt gael eu dymchwel.
Golygfa o'r nant, ac yna gwelir traed yn rhedeg ar draws y cerrig sarn. Mae dyn yn cerdded drwy'r... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Ail glip o'r ffilm 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn un teulu (un o nifer) yn symud tŷ yn fuan cyn i'w cartref gael ei ddymchwel a chyn boddi Cwm Tryweryn. Gwelir dau ddyn yn cario dodrefn o'r tŷ i gefn fan cyn gyrru... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Trydydd clip o'r ffilm 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn blant Capel Celyn ar eu diwrnod olaf yn ysgol y pentref, cyn i Gwm Tryweryn gael ei foddi. Gwelir y plant yn rhedeg i mewn i'r ysgol, a'r rhieni yn cyrraedd ar gyfer seremoni... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Pedwerydd clip o'r ffilm 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn y seremoni briodas olaf i gael ei chynnal yng nghapel pentref Capel Celyn, yn fuan cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel. Gwelwn y parti priodasol a'r gwesteion yn dod allan o Gapel... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Pumed clip o'r ffilm 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn nifer o dai yn cael eu dymchwel cyn i Gwm Tryweryn gael ei foddi. Cafodd nifer o adeiladau, gan gynnwys yr ysgol, eu dymchwel. Mae'r ffilm yn dangos pentwr o goed yn cael eu... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Chweched clip o'r ffilm 'Tryweryn, the story of a valley' (1965) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn yr argae hydro-electrig yn cael ei hadeiladu yng Nghwm Tryweryn. Gwelwn y lorïau, y peiriannau cloddio a'r craeniau wrth eu gwaith ar y safle adeiladu.
Adysgrif:
'The narrow... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | |
|