Ffilmiau | Themâu | Addysg | Ynglŷn â'r wefan hon | Cysylltwch | Hafan | English

Ffilm: 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Ffilm ddu a gwyn fud o garnifal Sefydliad y Merched Brynsiencyn a thrip aelodau'r capel lleol i'r Rhyl, tua 1950, o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Ffilm o ddau ddigwyddiad cymunedol ym Mrynsiencyn, Sir Fôn, a wnaed gan y meddyg lleol. Sef: carnifal neu ddiwrnod o hwyl a gynhaliwyd gan Sefydliad y Merched yng ngardd 'Llwyn Idris' (cartref y Parchedig John Williams), yn cynnwys y gweithgareddau canlynol - paratoi bwyd, pasiant neu ddrama mewn gwisg ffansi. Mae hefyd gêm gydag ymbarel a helfa drysor; a ffilm o wibdaith Capel Brynsiencyn ym 1950 i 'Marine Lake' a'r ffair bleser yn y Rhyl. Gallwch wylio pum clip o'r ffilm hon, yn cynnwys y golygfeydd canlynol: pasiant neu ddrama mewn gwisg ffansi, gêm gydag ymbarel, a gwibdaith y capel ym 1950 i'r Rhyl.

Clip cyntaf o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Clip cyntaf o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Digwyddiad cymdeithasol ym Mrynsiencyn, Sir Fôn. Mae'r dyrfa yn mwynhau 'priodas' rhwng dau (dwy) o aelodau hŷn y gymuned dan ofal ficer benywaidd. ...  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

Ail glip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Ail glip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Digwyddiad cymdeithasol ym Mrynsiencyn, Sir Fôn. Mae'n rhaid i'r cystadleuwyr gwblhau'r dasg anodd o gerdded tra'n cario gwrthrych (llysieuyn o bosibl) rhwng eu coesau. Mae'n rhaid cario'r...  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

Trydydd clip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Trydydd clip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Yma gwelir bysiau yn gadael Brynsiencyn am ffair bleser 'Marine Lake' y Rhyl....  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

Pedwerydd clip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Pedwerydd clip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Aelodau Capel Brynsiencyn yn mwynhau gwibdaith i ffair bleser 'Marine Lake', y Rhyl. Maent i'w gweld yn cael hwyl ar y ceir bach ('dodgems') ac yn bwyta bwyd traddodiadol y ffair, megis india-roc....  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

Pumed clip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Pumed clip o'r ffilm 'Hwyl a Sbri gyda Sefydliad y Merched, a Thrip Capel, Brynsiencyn' (tua 1950)

Gwelir aelodau Capel Brynsiencyn ar y ceffylau bach ac yn chwarae'r gemau ym mharc difyrion y Rhyl....  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

 
Tudalen : 1 o 1