Ffilm: 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial', ffilm gan G. A. Cheetham, (1923)Ffilm ddu a gwyn fud gan G. A. Cheetham o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Ffilm ddu a gwyn fud o'r seremoni a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar 14 Medi 1923 i ddadorchuddio'r gofeb ryfel. Mae'r ffilm hefyd yn cynnwys golygfeydd o fabolgampau ysgol, ras 'town v gown', a ras gerdded i fechgyn. Cafodd y ffilm newyddion hon ei chynhyrchu gan fab Arthur Cheetham (1864-1936), cynhyrchydd ffilmiau arloesol a pherchennog sinemâu, ar gyfer ei dangos yn sinemâu'r teulu, yn benodol sinema'r Palladium yn Stryd y Farchnad, Aberystwyth.
Gallwch wylio wyth clip o'r ffilm hon. Mae'r ddau glip cyntaf yn dangos seremoni ddadorchuddio cofeb ryfel Aberystwyth, 14 Medi 1923. Cafodd y gofeb ei chynllunio gan yr Athro Rutelli o Rufain a'i hadeiladu o garreg a gloddiwyd yn chwarel Ystrad Meurig. Yn y ffilm hon o'r seremoni ddadorchuddio, gwelir Arglwydd Ystwyth, yn ei het silc, yn sefyll ar risiau'r gofeb. Mae'r maer, Capten Edward Llewellyn, yn annerch y dorf ac yna'n dadorchuddio'r gofeb gan dynnu baner Jac yr Undeb i ddatgelu enwau'r meirwon. Mae'r Henadur J. Barclay Jenkins, ar ran Corfforaeth Aberystwyth, yn cyflwyno gweithred y gofeb i'r maer. Yna, mae nifer o dorchau yn cael eu gosod ar risiau'r gofeb.
Mae'r clipiau eraill yn dangos golygfeydd o fabolgampau ysgol a gynhaliwyd ar gaeau Plas Crug, Aberystwyth, ras 'town v gown', a ras gerdded i fechgyn.
Clip cyntaf o'r ffilm 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial' gan G. A. Cheetham (1923) |  | =transcdesc?>Yn y clip cyntaf hwn gwelwn olygfeydd o'r seremoni a gynhaliwyd i ddadorchuddio cofeb ryfel Aberystwyth ym 1923. Gwelir Capten Edward Llewellyn yn annerch y dorf cyn dadorchuddio'r gofeb gan dynnu... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Ail glip o'r ffilm 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial' gan G. A. Cheetham (1923) |  | =transcdesc?>Ffilm o'r dorf yn ymgasglu o amgylch y castell. Mae'r ffilm yn torri i ddangos golygfa o'r seremoni. Roedd y camera wedi ei leoli y tu fewn i borth gogleddol castell Aberystwyth, uwchben y dorf,... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Trydydd clip o'r ffilm 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial' by G. A. Cheetham (1923) |  | =transcdesc?>Parhad o ffilm newyddion Aberystwyth G. A. Cheetham, yn dangos bechgyn a merched Ysgol y Sir Aberystwyth yn cymryd rhan yn yr ymarferion gymnasteg. Yn ôl rhagair Cheetham, roedd yr ymarferion hyn yn... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Pedwerydd clip o'r ffilm 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial' gan G. A. Cheetham (1923) |  | =transcdesc?>Yma gwelir disgyblion Ysgol y Sir Aberystwyth yn perfformio gwahanol gampau ar feysydd chwarae Plas Crug, Aberystwyth. Mae'r merched yn dawnsio gwerin a'r bechgyn yn llofneidio ac yn arddangos eu... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Pumed clip o'r ffilm 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial' gan G. A. Cheetham (1923) |  | =transcdesc?>Ras 'town v gown' a ffilmiwyd gan G. A. Cheetham. Mae'r dorf wedi ymgynnull ar hyd Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, gan ffurfio coridor ar gyfer y rhedwyr. Cafodd y ras ei hennill gan 'Richards' a... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Chweched clip o'r ffilm 'Unveiling of Aberystwyth War Memorial' gan G. A. Cheetham (1923) |  | =transcdesc?>Ras gerdded i fechgyn a ffilmiwyd gan G. A. Cheetham.... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | |
|