Ffilm: 'Dr Kate' (tua 1969)Ffilm liw yn ymwneud â'r llenor Dr Kate Roberts (1891-1985) o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Ffilm yn cynnwys golygfeydd o Ynys Môn, a lluniau o Dr Kate Roberts, gyda chymorth Dr John Gwilym Jones (1904-88), yn cyflwyno ei chartref 'Cae'r Gors' i'r genedl ac, yn olaf, protest yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i gau ysgol gynradd pentref Bryncroes, ger Botwnnog, Pen Llŷn.
Gallwch wylio pedwar clip o'r ffilm hon, yn cynnwys golygfeydd o'r seremoni yn Rhosgadfan pan gyflwynodd Dr Kate Roberts ei chartref 'Cae'r Gors' i'r genedl, a'r brotest yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol Bryncroes. Clip cyntaf o'r ffilm 'Dr Kate' (tua 1969) |  | =transcdesc?>Yn y clip hwn gwelwn olygfa o Cae'r Gors, Rhosgadfan, cartref yr awdures adnabyddus Dr Kate Roberts. Mae'r ffilm yn torri o'r olygfa hon i ddangos Capel Rhosgadfan lle mae gwasanaeth wedi cael ei... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Ail glip o'r ffilm 'Dr Kate' (tua 1969) |  | =transcdesc?>Mae'r clip hwn yn dilyn ymlaen o'r fan lle gorffennodd y clip blaenorol ac yn dangos Dr Kate Roberts yn gadael Capel Rhosgadfan. Yna mae'r ffilm yn torri i ddangos golygfa o'r seremoni pan... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Trydydd clip o'r ffilm 'Dr Kate' (tua 1969) |  | =transcdesc?>Yma gwelir y brotest yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i gau ysgol gynradd Bryncroes, ger Botwnnog, Pen Llŷn. Ymhlith y protestwyr mae'r canwr a'r ymgyrchydd Dafydd Iwan. ... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | Pedwerydd clip o'r ffilm 'Dr Kate' (tua 1969) |  | =transcdesc?>Golygfeydd o'r brotest yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i gau ysgol gynradd Bryncroes, ger Botwnnog, Pen Llŷn.... Darllenwch fwy a gwyliwch y
ffilm> | |
|