Ffilm: 'Nov. 2nd 1925. The Dolgarrog Disaster' (1925)Ffilm ddu a gwyn fud o drychineb Dolgarrog, mis Tachwedd 1925, o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Mae'r ffilm hon yn dangos y dinistr a achoswyd pan dorrodd argae Llyn Eigiau, gan arwain yn ei dro at doriad yn argae cronfa ddŵr Coety. O ganlyniad, llifodd tunelli o ddŵr i bentref Dolgarrog, dyffryn Conwy, gan ladd 16 o bobl. Cafodd cerrig anferth a rwbel eu golchi i lawr i'r pentref gyda'r dŵr a daeth cynifer o bobl i weld y dinistr drostynt eu hunain fel y bu'n rhaid i'r heddlu gau'r ffordd er mwyn rhwystro'r torfeydd a oedd yn llesteirio'r ymdrechion i gynorthwyo'r pentrefwyr. Gallwch wylio tri chlip o'r ffilm hon.
|