Ffilmiau | Themâu | Addysg | Ynglŷn â'r wefan hon | Cysylltwch | Hafan | English

Ffilm: 'Turn Out of the Cardiff Fire Brigade' (1924)

Ffilm ddu a gwyn fud o Frigād Dān Caerdydd o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Cafodd y ffilm fer hon ei saethu yng Ngorsaf Dān Caerdydd ym 1924. Yn anffodus, nid ydym yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y ffilmio ac nid ydym yn gwybod ychwaith os oedd y ffilm yn hirach na'r 5 munud sydd wedi goroesi, ond mae'n debyg y gallwn ddweud i sicrwydd i'r ffilm gael ei chynhyrchu at ddiben arbennig, efallai fel ffilm fer i'w dangos cyn y brif ffilm yn y sinema? Yn y ffilm mae gŵr ifanc yn ffonio'r frigād dān o deliffon yn y stryd ac mae'r dynion tān yng ngorsaf Caerdydd yn ymateb i'r alwad. Yn y golygfeydd a ffilmiwyd mae'r frigād dān yn chwistrellu dŵr ar adeilad er ei fod yn ymddangos bod y tān wedi diffodd erbyn i'r ffilm gael ei gwneud. Ar ddiwedd y ffilm, rydym yn cyfarfod yr Arolygydd G. A. Bainbridge a'r swyddogion a fu'n diffodd y tān. Gallwch wylio dau glip o'r ffilm hon.

Clip cyntaf o'r ffilm 'Turn Out of the Cardiff Fire Brigade' (1924)

Clip cyntaf o'r ffilm 'Turn Out of the Cardiff Fire Brigade' (1924)

Yma gwelir Brigād Dān Caerdydd yn rhuthro i'r argyfwng mewn cwmwl o lwch....  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

Ail glip o'r ffilm 'Turn Out of the Cardiff Fire Brigade' (1924)

Ail glip o'r ffilm 'Turn Out of the Cardiff Fire Brigade' (1924)

Gan barhau o'r clip blaenorol, yma gwelir Brigād Dān Caerdydd yn diffodd adeilad sydd ar dān. Ar ddiwedd y clip rydym yn cael ein cyflwyno i'r Uwcharolygydd G. A. Bainbridge a swyddogion Brigād Dān...  Darllenwch fwy a gwyliwch y ffilm>

 
Tudalen : 1 o 1