Cofrestri Plwyfi
Dyma ran o dudalen o gofrestr plwyf Penrhosllugwy, Sir Fôn. Cedwir y gofrestr wreiddiol yn Archifdy Sir Fôn, ond gallwch weld tudalennau ohoni ar brif ran gwefan Casglu'r Tlysau (ond peidiwch ag anghofio ateb cwestiynau'r cwis!).
Cwestiwn 1: Pam fod cofrestri plwyfi yn ffynhonnell ddefnyddiol i haneswyr teulu?
Mwy ar gofrestri plwyfi
Daw'r cofrestri plwyfi hyn o Archifdy Sir Fôn a Gwasanaeth Archifau Gwynedd. Gallwch weld tudalennau o'r cofrestri hyn ac eraill ar brif ran y wefan. (Ond peidiwch ag anghofio'r cwis!)
Cwestiwn 2: Pa newid a gyflwynwyd i'r cofrestri plwyfi ym 1754?
Cofnodion Capeli Anghydffurfiol
Dyma ran o dudalen o Gofrestr Bedydd Cylchdaith Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg Abertawe, 1809 - 45. Cedwir y gofrestr wreiddiol gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Mae mwy o dudalennau o'r gofrestr ar brif ran y wefan. Ond cofiwch ddod yn ôl i ateb y cwestiwn!
Cwestiwn 3: Mae'n bosibl y gall cofnodion capeli Anghydffurfiol fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth i haneswyr teulu oherwydd
Llyfrau log ysgolion
Dyma ran o dudalen o lyfr log Ysgol Brydeinig Tywyn, 1863 - 76. Cedwir y llyfr log gwreiddiol yn Archifau Meirionnydd, Gwasanaeth Archifau Gwynedd, ond mae mwy o dudalennau ohono i'w gweld ar brif ran y wefan. Peidiwch ag anghofio dod yn ôl i orffen y cwis!
Cwesiwn 4: Gall llyfrau log ysgol fod yn ddefnyddio i haneswyr teulu oherwydd
Cofnodion Tlotai 
Dyma ran o dudalen o gofrestr derbyn a rhyddhau Tloty Castell-nedd, 1868. Cedwir y gofrestr wreiddiol gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, ond mae tudalennau o’r gofrestr i'w gweld ar brif ran y wefan. (Ond cofiwch ateb y cwestiwn!)
Cwestiwn 5: Mae'n werth edrych ar gofnodion tlotai os oedd eich cyndeidiau
Mapiau
Dyma ran o fap Arolwg Ordnans sy'n dangos y Barri, ym Mro Morgannwg, 1875. Gallwch weld y map cyfan ar brif ran y wefan.
Cwestiwn 6: Pa un o'r mapiau canlynol sy'n ddefnyddiol i haneswyr teulu?
Cyfeirlyfrau
Dyma ran o gyfeirlyfr Merthyr Tudful a gedwir yn llyfrgell Merthyr Tudful. Mae mwy o ddelweddau o’r cyfeirlyfr i'w gweld ar brif ran y wefan.
Mae Cyfeirlyfrau, megis Cyfeirlyfrau Kelly neu Swyddfa'r Post, yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y rheini sy'n ymchwilio hanes eu teulu o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.
Cwestiwn 7: Mae Cyfeirlyfrau yn arbennig o ddefnyddiol i haneswyr teulu sy'n olrhain eu cyndeidiau a oedd yn
Cofrestri Etholwyr
Mae'r ffotograff hwn o Archifdy Sir Benfro yn dangos Mrs Pankhurst, y swffragét flaenllaw, yn annerch cyfarfod yn Hwlffordd tua 1908. Edrychwch ar y ddelwedd hon ar brif ran y wefan.
Cwestiwn 8: Mae cofrestri etholwyr yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer haneswyr teulu, oherwydd eu bod yn rhestru enwau a chyfeiriadau
Canfod ffynonellau gwreiddiol - sut gall y Rhyngrwyd eich helpu
Wedi i chi ddechrau ar hanes eich teulu, bydd angen i chi edrych ar gofnodion gwreiddiol megis cofrestri plwyfi, cofrestri, llyfrau log ysgol neu gofnodion tlotai hefyd.
Cwestiwn 9: Gall y Rhyngrwyd fod yn fan cychwyn da i edrych amdanynt oherwydd
Canfod ffynonellau gwreiddiol - llefydd i ymweld â hwy
Mae cofnodion gwreiddiol (megis cofrestri plwyfi a llyfrau log ysgol) a ffynonellau megis cyfeirlyfrau masnach a mapiau yn ddefnyddiol i haneswyr teulu sy'n hel eu hachau yng Nghymru.
Cwestiwn 10: Mae'r ffynonellau hyn ar gael yn