Y Gornel DdysguMae gwefan Casglu'r Tlysau yn cynnwys miloedd o ddelweddau sy'n perthyn i ddiwylliant a hanes Cymru. Mae'n cynnwys delweddau o ffotograffau, dogfennau, dyddiaduron, llythyrau, lluniau, llyfrau print a chreiriau gwreiddiol, o bob cwr o Gymru, sy'n dyddio o gynhanes i'r presennol. Cedwir yr eitemau gwreiddiol mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau, lleol a chenedlaethol, ledled Cymru. Mae'r sefydliadau hyn wedi cydweithio gyda Chasglu'r Tlysau i gynorthwyo i greu gwefan lle gall pawb ddysgu ynglŷn â threftadaeth a diwylliant Cymru. I gyd-fynd â llawer o'r delweddau ceir disgrifiadau byr, a ysgrifennwyd gan swyddogion prosiect Casglu'r Tlysau, (sy'n haneswyr neu weithwyr proffesiynol yn y sector treftadaeth) neu'r sefydliad sy'n cadw'r eitem wreiddiol. Mae'r wefan yn adnodd gwych i athrawon a disgyblion. Mae'n cynnwys cyfoeth o ddeunydd sy'n berthnasol i Hanes a Daearyddiaeth, Celf a Chynllunio, Saesneg a Chymraeg, ac i ddatblygiad y Cwricwlwm Cymreig ar draws ystod o bynciau.
|