Datganiad Preifatrwydd
Cyffredinol
Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan Casglu'r Tlysau. Nid yw'n berthnasol i unrhyw safle y byddwn yn cysylltu ag ef.
Nid yw Culturenet Cymru Cyf, sy'n datblygu a gweinyddu gwefan Casglu'r Tlysau, yn casglu gwybodaeth bersonol ynglŷn â defnyddwyr y wefan, heblaw lle'r ydych chi'n dewis rhoi gwybodaeth o'r fath i ni, er enghraifft ar ffurflenni atborth neu wrth archebu nwyddau. Caiff gwybodaeth o'r fath ei phrosesi yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998, a'i chadw yn unig at y dibenion y'i rhoddwyd.
Ffurflenni Atborth
Rydym yn cadw'r wybodaeth bersonol yr ydych wedi'i rhoi i ni fel bod modd i ni ohebu a chysylltu â chi gyda gwybodaeth yr ydym ni'n teimlo a all fod o ddiddordeb i chi. Yn ychwanegol at hyn, gallwn basio'r wybodaeth ymlaen at drydydd partïon priodol (er enghraifft y sefydliad sy'n cadw'r eitem yr ydych chi wedi rhoi atborth amdani) os ydym ni'n teimlo y gallant hwy ateb unrhyw gwestiwn y byddwch chi wedi'i anfon neu efallai y bydd ganddynt ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth yr ydych chi wedi'i rhoi. Ni fyddwn yn pasio'r wybodaeth ymlaen at unrhyw sefydliadau masnachol. Os nad ydych chi'n dymuno i ni basio'r wybodaeth ymlaen at unrhyw drydydd partïon, gallwch nodi hynny ar y ffurflen atborth. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r wybodaeth yr ydych chi wedi'i rhoi ar ein gwefan; ynghyd â'ch enw ond nid eich cyfeiriad e-bost nac unrhyw fanylion personol. Rydym yn cadw'r hawl i olygu cyfraniad eich atborth. Os nad ydych yn dymuno i ni gyhoeddi gwybodaeth yr atborth, gallwch nodi hynny ar y ffurflen atborth.
Cwcis
Nid yw'r safle hwn yn defnyddio cwcis ar hyn o bryd, ond mae'n
bosibl y bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol. Ffeiliau testun
bychain ar eich cyfrifiadur yw cwcis. Er bod cwcis yn cadw
gwybodaeth a fydd yn eich hadnabod, nid ydynt yn cadw unrhyw
wybodaeth bersonol amdanoch chi, ond maent yn caniatáu i ni
ddarparu nodweddion arbennig ac i'ch hadnabod pan rydych yn
dychwelyd i'n safle. Os nad ydych chi eisiau derbyn cwcis wrth i
chi ymweld â'n safle, fe ddylech fod yn gallu newid y gosodiadau ar
eich porwr i ddiffodd y swyddogaeth hon.
Cyfeiriadau IP
Mae'r wefan yn adnabod cyfeiriadau IP yn awtomataidd, ac yn cofnodi gwybodaeth megis tudalennau a ymwelwyd â hwy a hyd yr ymweliad. Nid yw'r wybodaeth hon yn galluogi adnabod defnyddwyr unigol, ac fe'i defnyddir yn unig i weinyddu'r system a darparu ystadegau ynglyn â'r defnydd.be identified, and it is used only for system administration and to provide statistics on use.
|