Ynglŷn â Chasglu'r Tlysau
Sefydlwyd Casglu'r Tlysau gan gonsortiwm sy'n cynnwys y cyrff canlynol -
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (Cymru)
- Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru
- Cyngor Archifau Cymru
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Cyngor yr Amgueddfeydd yng Nghymru
- Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru a Grwp Archifyddion Sirol Cymru
Nod y prosiect yw gosod goreuon hanes diwylliannol
Cymru, o sefydliadau ledled Cymru, ar y Rhyngrwyd fel y gall bobl ddysgu oddi wrthynt a'u mwynhau.
Lansiad, Medi 2002
Cwblhawyd rhan gyntaf Casglu'r Tlysau ar ddiwedd Medi 2002,
a dathlwyd y digwyddiad mewn lansiad mawreddog yn
Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Daeth dros 300 o bobl i'r digwyddiad ac yn eu plith oedd
Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol, academyddion, haneswyr
a chynrychiolwyr o rai o brif gyrff cyhoeddus Cymru. Ymysg y
siaradwyr oedd Jenny Randerson AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant,
Chwaraeon a'r Gymraeg a'r hanesydd a'r awdur adnabyddus, Dr. John Davies.
Dathlu'r Tlysau, Hydref 2003
Erbyn Mai 2003, bydd y wefan tlysau.org.uk yn cynnwys
dros 20,000 o ddelweddau o fywyd yng Nghymru ar hyd yr oesau. Casglwyd
y rhain o gannoedd o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai ledled Cymru
gan eu dwyn ynghyd mewn un casgliad am y tro cyntaf, a fydd ar gael i bawb am ddim.
Mae graddfa'r prosiect yn anferth; mae'n cynnwys llythyrau hanesyddol, peintiadau,
dogfennau, arteffactau a ffotograffau sy'n amrywio o eitemau adnabyddus i eitemau
prin sydd byth yn cael eu gweld. Gyda'i gilydd mae'r deunydd hwn yn dangos hanes
bywyd gwyllt a chymdeithasol Cymru o'r dyddiau cynnar i'r gorffennol diweddar.
Bydd y wefan hon yn adnodd dysgu anferth i bobl Cymru tra'n diogelu'r tlysau
hyn fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.
Mae Casglu'r Tlysau yn brosiect unigryw sy'n dwyn ynghyd llyfrgelloedd,
amgueddfeydd ac archifdai - cenedlaethol a lleol - o bob rhan o Gymru
er mwyn rhannu eu casgliadau a chreu adnodd cenedlaethol drwy'r We Fyd-Eang.
Ariennir y prosiect hwn gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd (NOF) o dan adain
Cyfoethogi Diwylliannol ei rhaglen ar gyfer 'Digido Deunyddiau Dysgu'.
|